| Croeso
Dewch i ymlacio gyda Phil, Meinir a'r plant ar eu fferm deuluol sy'n
cael ei rhedeg ar ffurf draddodiadol ym mhentref hardd Llangian ar Benrhyn
Llyn. Cymraeg yw iaith gyntaf y teulu.
Milltir a hanner i ffwrdd gwelir pentref Abersoch, sydd yn cael ei
adnabod fel canolfan chwaraeon dwr, ac wrth deithio milltir i'r cyfeiriad arall dewch at yr enwog Borth Neigwl.
Sgubor Unnos yw'r cyntaf o'i fath i gael ei agor ar Benrhyn Llyn. Os
yr ydych yn chwilio am lety rhesymol o safon uchel ar gyfer gwyliau sy'n llawn gweithgareddau, neu am lecyn i ddadflino,
yna yn sicr Tanrallt yw'r lle i fod.
Croeso i feiciau a chychod, a
pheidiwch ag anghofio eich esgidiau cerdded.
|